Comisiwn y Senedd |
Lleoliad: |
Hybrid - Digital |
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 14 Mawrth 2022 |
|
||||
Amser: |
12.30 - 14.10 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: SC(6)2022(2) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Janet Finch-Saunders AS Ken Skates AS Joyce Watson AS |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau Laurian Hubbard, Pennaeth Ymgysylltu, Head of Engagement Laura Williams, Pennaeth Cyfathrebu, Pennaeth Cyfathrebu Mark Neilson, Pennaeth TGCh a Dalledu Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
1.b Datgan buddiannau
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.c Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod 31 Ionawr.
2 Ystâd y Senedd a ffyrdd o weithio yn y dyfodol
Trafododd y Comisiynwyr y camau nesaf yn dilyn trafodaethau am Strategaeth yr Ystâd ym mis Tachwedd a mis Ionawr. Cydnabuwyd y berthynas gyd-ddibynnol rhwng ffyrdd o weithio a'r amgylchedd gwaith.
Cytunodd y Comisiynwyr i ddwyn ynghyd yn ffurfiol uchelgeisiau’r Comisiwn ar gyfer gweithio ystwyth a gweithio hyblyg, yr adolygiad o gapasiti, a'r gofynion llety mewn un strategaeth Ffyrdd o Weithio a rhaglen gyflawni gysylltiedig. Nodwyd map trywydd lefel uchel Ffyrdd o Weithio a'r broses datblygu achos busnes, fel y’i nodwyd, a chymeradwywyd elfennau cychwynnol y gwaith hwn ar gyfer eu datblygu'n gyflym o dan gynllun gweithredu interim. Trafododd y Comisiynwyr bwysigrwydd sicrhau bod y trefniadau llywodraethu ar gyfer y materion strategol bwysig hyn yn gadarn, a phwysleisiwyd y pwysigrwydd y maent yn ei roi ar ymgysylltu ac ymgynghori drwy gydol y broses. Wrth wneud hynny, mynegwyd cefnogaeth i weithio gyda phartneriaid i ddeall anghenion pawb sy’n gysylltiedig.
Byddai’r cynlluniau gweithredu’n cynnwys, mewn perthynas â llety ym Mae Caerdydd:
• cyflogi ymgynghorwyr eiddo i roi cyngor penodol,
• drafftio strategaeth bresenoldeb, gan ymdrin â modelau gweithio hybrid,
• cyflogi ein hymgynghorwyr swyddfa i gynnig cyngor pellach ar symud y tu hwnt i’n cynlluniau peilot presennol ar gyfer gweithio hybrid,
• dechrau’r broses ffurfiol o gadarnhau gofynion Llywodraeth Cymru ynghylch ei defnydd o ystâd y Senedd yn y dyfodol a datblygu opsiynau ar gyfer sut i fodloni’r gofynion hynny, ac ysgrifennu at y Bwrdd Taliadau i fynegi diddordeb mewn gweithio’n agos ar faterion sy’n ymwneud â ffyrdd o weithio yn y dyfodol.
O ran presenoldeb rhanbarthol y Senedd, byddai’r cynlluniau cychwynnol yn cynnwys:
• prosiect i archwilio cynigion ar gyfer hybiau Senedd rhanbarthol yn y gogledd, y canolbarth a’r gorllewin, gan nodi amseroedd mewn perthynas â swyddfeydd Bae Colwyn, a
• chysylltu’n ffurfiol â Llywodraeth Cymru ynglŷn â defnyddio dull partneriaeth i ddatblygu opsiynau ar gyfer hybiau Senedd rhanbarthol.
Cytunodd y Comisiynwyr hefyd y dylid cynnal adolygiad mewnol ynglŷn â defnyddio adeilad y Pierhead yn y dyfodol.
3 Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Gwnaeth y Comisiynwyr drafod a chytuno ar y Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu ar gyfer y Chweched Senedd. Mae’r Strategaeth yn tynnu ar gyflawniadau’r Bumed Senedd a’r cyfleoedd niferus sydd wedi codi yn sgil y pandemig i gynyddu cyfranogiad ac ymgysylltiad.
Trafododd y Comisiynwyr bwysigrwydd cyrraedd y 'lleisiau tawel', a dangos perthnasedd y Senedd i fywydau'r rheini yng Nghymru.
4 Y contract arlwyo
Trafododd y Comisiynwyr opsiynau ar gyfer y contract arlwyo, a chytunwyd i ail-dendro am gontract byrrach. Pwysleisiwyd arwyddocâd graddfeydd cyflog cyfartal ar gyfer staff ar gontract â’r rhai sy’n cael eu cyflogi gan y Comisiwn, a nodwyd y byddai’r hyn a benderfynir yn galluogi gwaith i gael ei wneud fel y byddai opsiynau ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol hefyd yn ystyried awydd y Comisiwn i gefnogi cyfleoedd yng Nghymru.
5 Canlyniad yr adolygiad o ddangosyddion perfformiad allweddol
Cytunodd y Comisiynwyr ar newidiadau i'r dangosyddion perfformiad allweddol corfforaethol, a nodwyd datblygiad mesurau dangosyddion llwyth gwaith ac allbwn mewnol. Cytunwyd i gael data dangosyddion perfformiad allweddol interim sy’n adlewyrchu pwynt chweched mis y flwyddyn.
6 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch
Cafodd y Comisiynwyr adroddiad cynnydd ar y camau sy'n cael eu cymryd i gefnogi Aelodau i wneud gwelliannau diogelwch ac ar waith y Tîm Diogelwch i gynyddu ei effeithiolrwydd ymhellach wrth gefnogi Aelodau i gadw’n ddiogel.
Cytunwyd y byddai'n ddefnyddiol i'r wybodaeth gael ei rhannu â’r holl Aelodau fel dechrau proses o sicrhau bod yr Aelodau’n cael y wybodaeth ddiweddaraf am y materion hyn yn rheolaidd.
7 Seiberddiogelwch
Cafodd y Comisiynwyr fanylion am y camau a gymerwyd eisoes i ddiogelu’r Senedd rhag ymosodiadau seiber, ynghyd â’r camau gweithredu sydd yn yr arfaeth neu a awgrymir at y dyfodol er mwyn aros yn barod i ddelio â natur esblygol y bygythiad, sydd wedi dwysáu oherwydd digwyddiadau rhyngwladol diweddar.
Gofynnodd y Comisiynwyr am i friffio uniongyrchol gael ei gynnig i bob un o'r grwpiau plaid.
8 Springtide
Cafodd y Comisiynwyr wybodaeth am y trefniadau a fyddai ar waith yn dilyn marwolaeth y Frenhines, gan gynnwys cynlluniau teithio i'r Aelodau bryd hynny.
9 Diweddariad ynghylch Covid
Nododd y Comisiynwyr y gwaith sy'n cael ei wneud ar yr asesiad Risg Corfforaethol mewn ymateb i'r newidiadau diweddaraf i'r fframwaith rheoleiddio Covid a'r newidiadau a ragwelir.
Trafodwyd pwysigrwydd parhau i fod yn weddol ofalus ac arwyddocâd y cymorth a roddir i bobl sy'n gweithio ar yr ystâd.
10 Papurau i’w nodi:
10.a Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb arferol o benderfyniadau recriwtio a ddarperir i bob cyfarfod o’r Comisiwn.
11 Unrhyw fater arall
Yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf, mae’r Comisiynwyr wedi gwneud un penderfyniad ar gynigion i osod plac coffa ar ystâd y Senedd.